Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 28 Medi 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
Times Not Specified |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (09:30 - 10:30)
2.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am fodel fferyllfeydd cymunedol yr Alban, gan gynnwys ariannu gwasanaethau TG a rennir.
2.3 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am y datganiad ar y cyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ynghylch cydweithredu.
3. Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru (10:30 - 11:30)
3.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
3.2 Cytunodd y tystion i rannu â’r Pwyllgor ganlyniadau’r arolwg y maent yn ei gynnal i’r gwasanaethau ychwanegol a ddarperir drwy fferyllfeydd cymunedol ar hyn o bryd ac i ba raddau y mae fferyllwyr cymunedol am ddarparu gwasanaethau ychwanegol.
4. Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn – cytuno ar y cylch gorchwyl (11:30 - 11:40)
4.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid nodi cydbwysedd y ddarpariaeth rhwng cartrefi gofal preifat a chyhoeddus a’r llwybr i ofal preswyl yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid anfon cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad at randdeiliaid ac y dylid caniatáu pythefnos er mwyn iddynt gyflwyno eu sylwadau arno.